Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Gorffennaf 2019
Amser:
13.15 -
14.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5529
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Jackie Price, Llywodraeth Cymru Richard Lewis, Llywodraeth Cymru Tom Henderson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Annette Millett (Ysgrifenyddiaeth) Katy Orford (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Jenny Rathbone AC.
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitemau 3, 4 a 7 o’r cyfarfod heddiw.
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen Waith a gyhoeddir ar ei wefan yn nhymor yr hydref.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft, yn amodol ar fân newidiadau.
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Jackie Price, Uwch-swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; Richard Lewis, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru, a Tom Henderson, Uwch-reolwr y Bil, Llywodraeth Cymru.
6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.